Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 4 - Ty Hywel |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 18 Mawrth 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 10.56 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) William Graham (yn lle Mohammad Asghar (Oscar)) Mike Hedges Alun Ffred Jones Julie Morgan Jenny Rathbone Aled Roberts Sandy Mewies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
David Sissling, Director General for Health and Social Services, Llywodraeth Cymru Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Dave Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Darllenwch y trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar. Dirprwyodd William Graham ar ei ran.
2 Papurau i’w nodi
2.1 Nodwyd y papurau.
2.1 Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: Llythyr gan Owen Evans (28 Chwefror 2014)
2.2 Cyflog Uwch Reolwyr: Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (5 Mawrth 2014)
2.3 Rheoli Grantiau yng Nghymru: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru (3 Mawrth 2014)
3 Sesiwn Ymadawol: Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru
3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn ymadawol gyda David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol ymadawol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Prif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru.
3.2 Cytunodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol i anfon nodyn at y Pwyllgor am faterion iechyd meddwl.
3.3 Diolchodd y Pwyllgor i David Sissling am ei wasanaeth i’r GIG ac i’r sector cyhoeddus yng Nghymru ac am y modd yr oedd wedi cyfrannu at waith y Pwyllgor. Dymunodd y Pwyllgor yn dda iddo yn y dyfodol.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Gofal heb ei drefnu: Trafod yr adroddiad drafft
5.1 Trafododd yr Aelodau weddill yr adroddiad drafft. Bydd y Clercod yn llunio fersiwn ddiwygiedig a’i hanfon at yr Aelodau drwy’r e-bost i gael eu sylwadau. Bydd y Pwyllgor yn dychwelyd i’r eitem yn y cyfarfod ar 3 Ebrill.